Carlo

Lyrics: Dafydd Iwan Music: Dafydd Iwan
Mae gen i ffrind bach yn byw ym Muckingham Palas, A Charlo Windsor yw ei enw ef. Tro dwethaf es i gnocio ar ei ddrws ei dy, Daeth ei Fam i’r drws a medde hi wrthof i… O, Carlo, Carlo, Carlo’n warae polo heddi, heddi Carlo, Carlo, Carlo’n warae polo gyda Dadi, Dadi Ymunwch yn y gan, trigolion fawr a man O’r diwedd mae gynon ni ‘Brins’ yn ngwlad y gan.
Fe gafodd ei addysg draw yng ngwlad Awstralia, Ac yna lan i Scotland yr aeth o. Colofn y diwylliant Cymraeg, Cyfrannwr i Dafod y Ddraig, Aelod o’r Urdd, gwersyllwr er cyn cof… Urdd O, Carlo, Carlo, Carlo’n warae polo heddi, heddi Carlo, Carlo, Carlo’n warae polo gyda Dadi, Dadi Ymunwch yn y gan, trigolion fawr a man O’r diwedd mae gynon ni ‘Brins’ yn ngwlad y gan.
Bob pythons mae e’n darllen Y Cymro a’r Faner, Yn darllen Dafydd ap Gwilym yn ei wely bob nos, Dafydd ap Gwilym Mae dyfodol y wlad a’r iaith yn agos at ei galon fach ef, Y mae’n fwy o genedlaetholwr na’r FWA… O, Carlo, Carlo, Carlo’n warae polo heddi, heddi Carlo, Carlo, Carlo’n warae polo gyda Dadi, Dadi Ymunwch yn y gan, trigolion fawr a man O’r diwedd mae gynon ni ‘Brins’ yn ngwlad y gan.
O ie, Carlo, Carlo, Carlo’n warae polo heddi ie, heddi Carlo, Carlo, Carlo’n warae polo gyda Dadi ie, Dadi Ymunwch yn y gan, daiogion fawr a man O’r diwedd mae gynon ni ‘Brins’ yn ngwlad y gan.